Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (197) |
Datganiad y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd ei bod yn 15 mlynedd ers i’r Cynulliad gyfarfod am y tro cyntaf ac felly, ar ei rhan hi a phob Llywydd blaenorol, diolchodd i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu’n adeiladol yn ystod y cyfnod hwnnw at gyflwyno deddfwriaeth a pholisi, a chraffu ar ddeddfwriaeth a pholisi, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl Cymru.
Datganiad y Llywydd
Cyhoeddodd y Llywydd bod y Bil Addysg (Cymru) wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mai.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 9. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad yr Athro Andrews ar ofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Dechreuodd yr eitem am 14.30
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Argymhelliad ar leoli’r Ganolfan Isranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys yng ngogledd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.33
5 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Gweithio mewn Partneriaeth gyda Chymdeithasau Tai
Dechreuodd yr eitem am 16.04
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Strategaeth Ddŵr i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 16.45
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd
Dechreuodd yr eitem am 17.16
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio
Dechreuodd yr eitem am 17.57
NDM5492 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy’n ymwneud â mesurau sy’n effeithio ar fusnesau: cyffredinol, trafnidiaeth, yr amgylchedd, addysg a hyfforddiant, mesurau i leihau’r baich ar awdurdodau cyhoeddus a deddfwriaeth nad yw o ddefnydd ymarferol mwyach, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 14 Mai 2014